|
|---|
|
|---|
Roedd hon yn bwysicach na thafarn arferol gan ei bod yn dafarn y goits fawr gyda efail y gôf i bedoli'r ceffylau. Yn anffodus y drws nesaf i'r dafarn oedd toll-borth (tyrpeg) a oedd yn culhau y ffordd ac yn rhwystro trafnidiaeth.
Yn niwedd yr 18G, 1830 roedd y toll borth fel cadach coch i darw, gan fod dilynwyr Beca yn rhuthro o gwmpas Sir Gaerfyrddin yn terfysgu. Roeddent yn gwrthwynebu'r doll ar wageni ac anifeiliad gan ymosod a malurio'r giatiau. Oherwydd y teimlad cryfion yn erbyn yr awdurdodau penderfynodd David John newid enw'r dafarn gan ddileu pen y brenin - 'King's Head' a'i galw Yr Undeb, the 'Union Inn'.
Roedd yr Union yn bragu ei chwrw
|
|---|
Daeth y bragdy yn ganolbwynt y gymdeithas gan gyflogi tua hanner cant o bobl. Dywedodd pentrefwr yn ddiweddarach; 'Mi roedd bron pob teulu â chwt mochyn yng ngwaelod eu gardd ac ar y diwrnod y cyflogwyd bwtsiar i ladd y mochyn rhaid oedd cludo caniau o ddwr berwedig o'r bragdy i lanhau a chrafu'r mochyn. Roedd rhai o bobl y yr ardal yn mofyn dwr poeth i wneud eu golchiad wythnosol, ac eraill yn mynd i'r bragdy i fenthyg ystol neu hogi arfau yn cael eu esgus i fynd i mewn am beint'.
Deuai ffermwyr y cylch i mewn ar ddiwrnod bragu er mwyn cael y stwnsh soeglyd i'w gasglu i borthu eu anifeiliad. Roedd y iard a'r heolydd y tu allan yn llawn troliau'r ffermwyr yn aros eu tro am y soeg. Gelwyd y heol gul byth wedyn yn 'Heol y Ffermwyr'..
